Wales | United KingdomGreat Britain

Darllenwch y Rheolau i gyd cyn mynd mewn i'r Ardal Chwarae ac yn ystod eich ymweliad.

Cyfrifoldeb Rhiant

  1. Rhaid i oedolyn cyfrifol fod efo pob plentyn bob amser. Nid yw Canolfan Empire yn derbyn cyfrifoldeb am oruchwylio plant.
  2. Mae Rhieni/Gwarcheidwaid yn gyfrifol am ymddygiad a lles y plentyn dan eu gofal a rhaid iddynt eu goruchwylio bob amser.
  3. Mae cyfyngiadau oedran yn amrywio'n dibynnu ar pa ardal chwarae y mae ymwelwyr yn eu defnyddio. Mae'r rhain mewn grym er diogelwch a mwynhad bob plentyn.
  4. Dylai rhieni a gwarcheidwaid fynd efo'r plant i'r toiledau bob amser a rhaid iddynt sicrhau bod dwylo'n cael eu golchi cyn mynd mewn i'r ardal chwarae. Dylid newid clytiau a defnyddio potiau yn y toiledau gyda chyfleusterau newid clytiau babis. Rhowch y clytiau yn y biniau cywir a ddarperir.
  5. Mae'n rhaid i blant adael bathodynnau a gemwaith gydag oedolyn cyfrifol. Mae hyn yn cynnwys sbectol oni bai eu bod yn cael eu gwisgo gyda dolen a lensys sydd ddim yn torri.
  6. Tynnwch eich esgidiau cyn mynd mewn i'r ardal chwarae. Rhaid gwisgo sanau bob amser.
  7. Mae chwarae'n cael ei gyfyngu i 2 awr yn ystod cyfnodau prysur.
  8. Ni ddylai plant sy'n sâl fynd mewn i'r ardal chwarae.
  9. Ni fydd cwffio neu fwlio yn cael eu goddef. Efallai y byddwn yn gofyn i bobl/plant sy'n euog o hynny adael.
  10. Rhaid i rieni ddweud wrth aelod o staff am unrhyw bryderon o ran ymddygiad. Ni ddylech geisio ymyrryd eich hun.
  11. Mae Canolfan Empire yn adeilad Di-fwg.

Iechyd a Diogelwch Plant

  1. Mae tîm Canolfan Empire yn goruchwylio'r offer chwarae ac yn helpu i wneud yn siŵr fod eich plentyn yn mwynhau ei brofiad chwarae. Fodd bynnag, nid ydynt yno yn lle rhiant.
  2. Ni ddylid mynd ag unrhyw fwyd, diod na gwm cnoi mewn i'r ardal chwarae.
  3. Gwaherddir ysmygu yn y ganolfan chwarae.
  4. At ddibenion Iechyd a Diogelwch, gwnewch yn siŵr fod unrhyw weddillion bwyd sy'n disgyn ar y llawr yn cael eu codi/glanhau cyn gynted ag y bo modd. Dywedwch wrth aelod o staff am unrhyw beth sy'n cael ei golli ar y llawr.
  5. Dywedwch wrth aelod o staff am bob damwain, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn medru helpu a lleihau'r posibilrwydd o'r ddamwain yn digwydd eto. Bydd y rhain yn cael eu cofnodi ac maent yn rhan bwysig o archwiliadau diogelwch parhaus.
  6. Rhaid rhoi gwybod i aelod o staff am bob difrod, boed yn ddamweiniol neu'n fwriadol i eiddo Canolfan Empire.
  7. Oherwydd rhesymau Iechyd a Diogelwch, ni chaniateir bwyta bwyd yma oni bai ei fod yn cael ei brynu yng Nghanolfan Empire.
  8. Dylai Rhieni/Gwarcheidwaid nodi, er bod pob ystyriaeth wedi ei roi ar gyfer diogelwch plant sy'n defnyddio'r ganolfan chwarae, nid yw Canolfan Empire yn gyfrifol am ddamweiniau sy'n digwydd o ganlyniad i blant yn chwarae ar yr offer!

Chwarae'n Ddiogel

  1. Rhaid i blant fynd lawr y sleidiau ar eu heistedd, gan groesi eu breichiau.
  2. Peidiwch â chwarae o flaen ceg y sleidiau.
  3. Ni chaniateir dringo ar y waliau rhwydi na thu allan i'r strwythur.
  4. Rydym yn argymell bod plant yn gwisgo llewys hir a throwsus. Dylid tycio dillad rhydd bob amser.
  5. Ni ddylai plant wisgo dillad sy'n cynnwys rhaffau/llinynnau neu stydiau metel yn yr ardal chwarae.
  6. Ni chaniateir mynd ag unrhyw eitem finiog fel teganau, bathodynnau, gemwaith etc mewn i'r ardal chwarae.
Holyhead Town Council